2017 No. 152 - Legislation.gov.uk

0 downloads 172 Views 716KB Size Report
Feb 14, 2017 - MARINE POLLUTION, WALES. The Environment (Wales) Act 2016. (Commencement No. 1) Order 2017. EXPLANATORY N
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU

WELSH STATUTORY INSTRUMENTS

2017 Rhif 152 (Cy. 44) (C. 16)

2017 No. 152 (W. 44) (C. 16)

DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU

ENVIRONMENTAL PROTECTION, WALES

TRWYDDEDU (MOROL), CYMRU

LICENSING (MARINE), WALES

LLYGREDD MOROL, CYMRU

MARINE POLLUTION, WALES

Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2017

The Environment (Wales) Act 2016 (Commencement No. 1) Order 2017

NODYN ESBONIADOL

EXPLANATORY NOTE

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

(This note is not part of the Order)

Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

This Order is the first commencement order made by the Welsh Ministers under the Environment (Wales) Act 2016 (“the Act”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 24 Chwefror 2017 —

This Order brings the following provisions of the Act into force on 24 February 2017 —

(a) adran 77 (ffioedd am fonitro, amrywio etc. drwyddedau morol) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(a) section 77 (fees for monitoring, variation etc. of marine licences) to the extent necessary for the purpose of making regulations;

(b) adran 78 (darpariaeth bellach ynghylch talu ffioedd) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau; ac

(b) section 78 (further provision about payment of fees) to the extent necessary for the purpose of making regulations; and

(c) adran 79 (apelio yn erbyn amrywio etc. drwydded forol am beidio â thalu ffi neu flaendal) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau.

(c) section 79 (appeal against variation etc. of marine licence for non-payment of fee or deposit) to the extent necessary for the purpose of making regulations.

OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU

WELSH STATUTORY INSTRUMENTS

2017 Rhif 152 (Cy. 44) (C. 16)

2017 No. 152 (W. 44) (C. 16)

DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU

ENVIRONMENTAL PROTECTION, WALES

TRWYDDEDU (MOROL), CYMRU

LICENSING (MARINE), WALES

LLYGREDD MOROL, CYMRU

MARINE POLLUTION, WALES

Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2017

The Environment (Wales) Act 2016 (Commencement No. 1) Order 2017

Gwnaed

Made

14 Chwefror 2017

14 February 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 88(3)(c) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

The Welsh Ministers make the following Order in exercise of the powers conferred upon them by section 88(3)(c) of the Environment (Wales) Act 2016(1).

Enwi a dehongli

Title and interpretation

1.— (1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2017.

1.— (1) The title of this Order is the Environment (Wales) Act 2016 (Commencement No. 1) Order 2017.

(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

(2) In this Order “the Act” (“y Ddeddf”) means the Environment (Wales) Act 2016.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 24 Chwefror 2017

Provisions coming into force on 24 February 2017

2. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 24 Chwefror 2017 —

2. The appointed day for the following provisions of the Act coming into force is 24 February 2017 —

(a) adran 77 (ffioedd am fonitro, amrywio etc. drwyddedau morol) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(a) section 77 (fees for monitoring, variation etc. of marine licences) to the extent necessary for the purpose of making regulations;

(b) adran 78 (darpariaeth bellach ynghylch talu ffioedd) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau; a

(b) section 78 (further provision about payment of fees) to the extent necessary for the purpose of making regulations; and

(1) 2016 anaw 3.

(1) 2016 dccc 3.

2

(c) adran 79 (apelio yn erbyn amrywio etc. drwydded forol am beidio â thalu ffi neu flaendal) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau.

(c) section 79 (appeal against variation etc. of marine licence for non-payment of fee or deposit) to the extent necessary for the purpose of making regulations.

Lesley Griffiths Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru 14 Chwefror 2017

Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs, one of the Welsh Ministers 14 February 2017

3

OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU

WELSH STATUTORY INSTRUMENTS

2017 Rhif 152 (Cy. 44) (C. 16)

2017 No. 152 (W. 44) (C. 16)

DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU

ENVIRONMENTAL PROTECTION, WALES

TRWYDDEDU (MOROL), CYMRU

LICENSING (MARINE), WALES

LLYGREDD MOROL, CYMRU

MARINE POLLUTION, WALES

Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2017

The Environment (Wales) Act 2016 (Commencement No. 1) Order 2017

ISBN 978-0-348-20070-6

£4.25 W201702156

02/2017

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2017/0152

9 780348 200706